Grace Jones i berfformio yng Ngŵyl Rhif 6

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun, Fe fydd Grace Jones a Belle & Sebastian yn arwain ar y prif lwyfan yn ystod pedwaredd flynedd yr ŵyl

Mae Gŵyl Rhif 6 wedi cyhoeddi rhai o'r prif artistiaid ar gyfer y digwyddiad rhwng 3-6 Medi eleni.

Daeth cadarnhad gan y trefnwyr y bydd Grace Jones a Belle & Sebastian yn arwain ar y prif lwyfan yn ystod y bedwaredd ŵyl i'w chynnal ym mhentref Portmeirion.

Mae Belle & Sebastian wedi mwynhau gyrfa o 19 mlynedd yn y diwydiant a newydd gyhoeddi eu nawfed albwm.

Mae'r gantores, model ac actores Grace Jones yn enwog am ei sioeau llwyfan trawiadol.

Ymhlith yr artistiaid eraill a gyhoeddwyd yn y rhestr gyntaf o berfformwyr mae enillwyr Gwobr Mercury 2014, Young Fathers, a'r bardd gafodd ei henwebu am yr un wobr, Kate Tempest.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun, Mae Grace Jones yn enwog am ei sioeau llwyfan trawiadol

'Cryfach nag erioed'

Dywedodd cyfarwyddwr yr Ŵyl, Luke Huxham: "Mae'r don gyntaf o artistiaid yn gryfach nag erioed ac mae llawer mwy i ddod gan gynnwys trydydd prif artist.

"Mae gennym lawer mwy i'w gyhoeddi ar ochr diwylliant, celfyddydau a bwyd sy'n rhannau fwyfwy pwysig o brofiad Gŵyl Rhif 6, gan gynnwys ambell syrpreis - rwy'n credu y gallwn ni ddweud mai hon fydd yr ŵyl orau eto."

Mae digwyddiadau'n cael eu cynnal ar draws y safle ym Mhortmeirion, ac fe fydd artistiaid Cymraeg yn perfformio ar lwyfan arbennig yn y Cae Mawr.

Cafodd nifer o artistiaid cynllun Gorwelion - sy'n cael ei redeg ar y cyd rhwng BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru - gyfle i berfformio yn yr ŵyl yn 2014.

Straeon perthnasol