Gatland yn cyhoeddi tîm Cymru

Fe fydd Capten Cymru, Sam Warburton yn ennill cap rhif 50 yn erbyn Lloegr nos Wener, wrth iddo arwain tîm Cymru sy'n cynnwys dau newid i'r XV a drechodd De Affrica yn yr Hydref.

Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi enwau'r tîm 48 awr yn gynt na'r disgwyl, ac fe fydd Richard Hibbard a George North yn dychwelyd i'r tîm fydd yn herio Lloegr i agor pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Y Tîm

Leigh Halfpenny, Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, George North, Dan Biggar, Rhys Webb; Gethin Jenkins, Richard Hibbard, Samson Lee, Jake Ball, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Sam Warburton (C), Taulupe Faletau.

Ar y fainc i Gymru nos Wener:

Scott Baldwin, Paul James, Aaron Jarvis, Luke Charteris, Justin Tipuric, Mike Phillips, Rhys Priestland, Liam Williams.

Mae' na ragor o gynnwys am Bencampwriaeth y 6 Gwlad ar Cymru Fyw.