Cytuno i werthu pencadlys BBC Cymru i Taylor Wimpey
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru wedi cytuno i werthu y pencadlys yn Llandaf, Caerdydd i gwmni datblygu tai Taylor Wimpey.
Mae'r gwerthu'n amodol ar sicrhau caniatâd cynllunio gan Gyngor Caerdydd ar gyfer datblygiad arfaethedig Taylor Wimpey ar y ddau safle.
Ym mis Mehefin, datgelodd y darlledwr ei gynllun i symud i safle newydd ger gorsaf Caerdydd Canolog.
Bydd y gwerthu'n helpu ariannu'r datblygiad newydd, ac mae disgwyl i staff symud yno yn 2018.
Mae datblygiad arfaethedig Taylor Wimpey, a fyddai'n creu 100 o swyddi adeiladu a 300 pellach yn y gadwyn cyflenwad, yn cynnwys safle Tŷ Oldfield BBC Cymru ar ochr arall Heol Llantrisant.
Dywedodd eu cyfarwyddwr tir, Gareth Hawke, y byddai'n cyfuno tai preifat a rhai fforddiadwy, gyda'r gobaith o roi'r safleoedd cyntaf ar werth yng nghynnar yn 2019.
Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies: "Mae ein safleoedd ni yn Llandaf wedi'n gwasanaethu'n dda am bron i hanner canrif. Ond mae'r dechnoleg a'r cyfleusterau yma yn dangos eu hoedran a bydd ein cartref newydd yn ein galluogi i gryfhau ein rhaglenni a'n gwasanaethau.
"Rwy'n credu bod y cynlluniau cyffrous ar gyfer ein cartref newydd ar y Sgwâr Canolog yn gwneud synnwyr go iawn i'r BBC, yn greadigol ac yn ariannol, ac mae ganddyn nhw'r potensial i chwarae rôl ganolog wrth ddatgloi adfywiad rhan bwysig o'n prifddinas."
Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Phil Bale, y byddai adleoliad BBC Cymru i ganol y ddinas yn ddatganiad mawr o hyder yn ei gynlluniau i adeiladu sgwâr cyhoeddus fyddai'n deilwng o unrhyw brifddinas yn Ewrop.
Bydd cais am sêl bendith terfynol ar gyfer adleoli BBC Cymru i'r Sgwâr Canolog yn digwydd yn ddiweddarach eleni.