Llywodraeth Cymru yn adolygu polisi gostwng baneri

Saudi Arabia's King Abdullah in January 2014 Image copyright AP
Image caption Beirniadodd Simon Thomas AC ostwng y faner yn sgil marowlaeth y Brenin Abdullah

Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu polisi gostwng baneri fel arwydd o barch i deuluoedd brenhinol.

Daw'r cyhoeddiad wedi i rai feirniadu'r deyrnged i'r Brenin Abdullah o Saudi Arabia.

Yn ôl AC Plaid Cymru Simon Thomas, roedd gostwng y faner yn gywilyddus yn wyneb record y wlad ar hawliau dynol.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones fod Llywodraeth Cymru wedi dilyn canllawiau'r Swyddfa Dramor ac nid oedd y llywodraeth mewn unrhyw fodd yn cymeradwyo troseddau yn erbyn hawliau dynol.

"Mae'n gywir ein bod yn adolygu ein polisi ar yr adeg hon."

Cafodd marwolaeth y Brenin Abdullah ei chyhoeddi ddydd Gwener a chafodd baneri eu gostwng ar adeiladau Llwyodraeth Cymru.