Scarlets 3-26 Toulon
- Cyhoeddwyd

Trechodd Toulon dîm Scarlets wedi'i daro gan anafiadau yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop i gymryd cam arall tuag at amddiffyn eu teitl.
Golygai'r canlyniad bod y Scarlets yn gorffen ar waelod eu grŵp wedi i Ulster drechu Caerlŷr o 26-7.
Roedd ceisiadau gan Mathieu Bastareaud yn yr hanner-cyntaf a Bryan Habana yn yr ail yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus i'r ymwelwyr.
Ciciodd y Cymro Leigh Halfpenny 13 o bwyntiau a sgoriodd Nicholas Sanchez gyda gôl adlam, a dim ond un gic gosb gan Steven Shingler oedd gan y Scarlets fel ymateb.
Scarlets: Steven Shingler; Harry Robinson, Regan King, Scott Williams (capten), Hadleigh Parkes; Rhys Priestland, Aled Davies; Rob Evans, Ryan Elias, Peter Edwards, George Earle, Lewis Rawlins, Aaron Shingler, John Barclay, Rob McCusker.
Eilyddion: Darran Harris, Wyn Jones, Jacobie Adriaanse, Sion Bennett, Rory Pitman, Rhodri Williams, Josh Lewis, Kristian Phillips.
Toulon: Leigh Halfpenny; Drew Mitchell, Mathieu Bastareaud, Maxime Mermoz, Bryan Habana; Nicolas Sanchez, Sebastien Tillous-Borde; Xavier Chiocci, Guilhem Guirado, Carl Hayman (capten), Romain Taofifenua, Jocelino Suta, Juanne Smith, Steffon Armitage, Matemini Masoe.
Eilyddion: Jean-Charles Orioli, Alexandre Menini, Martin Castrogiovanni, Mamuka Gorgodze, Juan Martin Fernandez Lobbe, Rudolffe Wulf, Eric Escande, Bakkies Botha.
Dyfarnwr: Wayne Barnes (Lloegr)