Y gymuned hoyw ar y sgrin
- Cyhoeddwyd

Sut mae pobl hoyw yn cael eu portreadu mewn dramâu teledu oedd dan sylw mewn rhifyn arbennig o Stiwdio gyda Nia Roberts ar BBC Radio Cymru ar 20 Ionawr.
Stereoteipio?
Cyfeiriodd y dramodydd Dafydd James, awdur 'Llwyth', am y portread o bobl hoyw ar y teledu yn y 70au gyda chymeriadau fel Mr Humphries (John Inman) yn y gyfres gomedi 'Are You Being Served?' a chyflwynydd 'The Generation Game', Larry Grayson.
"Dyna'r hiwmor a'r syniadau dyfon ni lan â nhw yn blentyn," medd Dafydd, "yr hiwmor camp yna, sy' yn ffordd o gadw gwrwgydiaeth o led braich.
"Roedd hwn yn ffordd eitha' saff o gael yr hunaniaethau 'ma ar y teledu, a hynny mewn ffordd oedd cynulleidfa mwy eang falle'n gallu... "goddef."
"Goddef" yr hunaniaeth yn hytrach na phortreadu'r realaeth."
Torri tir newydd
Er hynny, roedd yna ambell i ymgais yn y 60au yn ôl y dramodydd a'r scriptiwr Meic Povey i adlewyrchu darlun mwy 'syber' o'r gymuned hoyw. Fe gyfeiriodd e at y ffilm 'Victim' nôl yn 1961.
"Dyma Dirk Bogarde yn portreadu gwrwgydiaeth mewn ffordd gyfrifol a difrifol. Mi oedd o'n benderfyniad dewr iawn iddo chware'r prif ran - bargyfreithiwr oedd yn hoyw - mi oedd o'n heart throb, yn seren ar y pryd.
"Mi 'nath y ffilm honno gyfrannu at y ddeddf yn 1967 oedd ddim yn g'neud perthynas wrwgydiol yn drosedd."
"Ond wedyn daeth rhywbeth fel Queer as Folk gan y Cymro Russell T Davies. Dyma ni'n cael cyfle i weld hunaniaethau hoyw mewn ffordd nwydol, cnawdol."
"Ac yn Gymraeg wrth gwrs - drama Siôn Eirian, 'Wastad ar y Tu Fas' (1986). Drama wych. A dyna'r tro cynta' i mi weld perthynas wrwgrydiol yn cael ei phortreadu fel rhywbeth hollol gyffredin a normal.
"Dyna dwi'n meddwl ydy un o'r trafferthion - trio argyhoeddi pobl fod perthynas hoyw yn union 'run fath, os leciwch chi - ma' nhw'n chwerthin, ac yn crio, ac yn caru, ac yn torri c'lonnau yn union fel pawb arall.
"Mae'n anodd argyhoeddi pobl o hynny."
Cymry homoffobig?
"Yn enwedig os ydach chi o'r cefndir ydw i'n dod ohono sef cefn gwlad wledig Cymru, sy'n homoffobig iawn. Hyd heddiw - mae o'n rhemp i ddeud y gwir.
"Os gym'wch chi gymeriad fel Leslie Wynne... ydan ni'n chwerthin efo Leslie Wynne neu am ei ben o? A dwi'n meddwl bod rhai pobl yn mwy cyfforddus yn chwerthin am ei ben o."
"Ond heddiw wrth gwrs, ma' pob dim wedi newid," medd Meic Povey, "mae bron iawn bob opera sebon ar deledu ym Mhrydain, nid yn unig angen tafarn i sicrhau bod pawb yn cwrdd... ond ma' nhw angen cymeriadau hoyw; Emmerdale, Eastenders, Coronation Street, Hollyoaks, Pobol y Cwm.
"Ond 'swn i'n dal i ddweud fod y ffordd ma Pobol y Cwm 'di portreadu dwy lesbian yn hoyw-lite - nad ydyn nhw yn mynd o dan groen perthynas hoyw go iawn - er bod o'n gam ymlaen."
'Nid da lle gellir gwell'
"Mae'r byd digidol wedi democrateiddio creu cynnwys," medd Berwyn Rowlands, trefnydd gŵyl ffilmiau hoyw a lesbaidd Iris.
"Mae hwn yn dod yn ddifyr o ran cyfres newydd Russell T Davies, 'Cucumber, Banana & Tofu', bod 'na bellach gyfle i ni weld person hoyw, lesbiaidd ym mhob man ar sawl cyfrwng."
Mae Mabli Jones yn swyddog polisi gydag elusen Stonewall Cymru:
"Dwi'n meddwl yn sicr bod pethe 'di gwella ond ma' 'na dal lot o waith i neud. Ma' 'na dan-gynrychiolaeth dal i fod.
"Ma' 'na lot o straeon o ddynion ifanc gwyn hoyw gydag arian yn byw mewn dinasoedd. Ond ma' dal angen mwy o gynrychiolaeth o fenywod, pobl deurywiol, pobl draws."
Mae yna 15 mlynedd ers i gyfres gynta' 'Queer as Folk' gael ei dangos. Ydi agwedd comisiynwyr teledu wedi newid ers hynny? Dyw Dafydd James ddim yn siŵr:
"I fi fel dramodwr - dwi wedi cael sawl sgwrs gyda chomisiynwyr Channel 4 ac yn y BBC a dwi'n dod lan gyda straeon neu gyfresi hoyw gyda phobl hoyw. Wrth gwrs be' ma' nhw'n dweud yw - o, bydd dim diddordeb 'da ni yn hwnna achos ma' Russell yn neud hwnna."
"Ife rhyw dicio'r bocsys ydyn ni?"
Ond dydi ticio bocsys ddim yn mynd i weithio, yn ôl Mabli Jones:
"Ma' tueddiad i bobl feddwl fod cynrychiolaeth ar y sgrîn ddim yn fater o bwys o'i gymharu â newid y ddeddfwriaeth. Ond ma' fe'n bwysig, yn enwedig i bobl ifanc - ma' gweld dy hun ar y sgrîn neu gweld rhywun ti'n gallu cydymdeimlo â nhw yn newid sut ti'n gweld y posibiliadau sy' gen ti."
Cydbwyso cymeriad a stori
Yn ôl Dafydd mae angen i'r cwmnïau teledu fod yn ofalus wrth bwyso a mesur sut mae cymeriadau hoyw yn cael eu portreadu ac hanfodion stori dda. Cyfeiriodd, fel enghraifft, at y gyfres '35 Diwrnod' ar S4C:
"O'n i reit grac erbyn diwedd y gyfres o'r ffordd gafodd y cymeriad trans yna ei bortreadu. Gath ei bortreadu fel rhyw fath o salwch dwi'n credu erbyn y bennod ola'.
"Mi oeddwn i'n gofyn i fy hun ai dyna oedd gofynion y stori - sai'n siŵr.
"Ond fel sianel sy'n delio â chymuned leiafrifol, fi'n credu bod 'na ddyletswydd gan S4C i roi cynrychiolaeth positif i hunaniaethau lleiafrifol hefyd a dyw'r cymeriadau trans ddim yn cael lot o blatfform neu lwyfan ar S4C."