Agor cwest wedi marwolaeth ar fferm yn Sir Ddinbych
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi cael ei agor a'i ohirio yn dilyn marwolaeth dyn ar fferm yn Llandyrnog, ger Dinbych, ddydd Mercher diwetha'.
Clywodd y cwest ei bod hi'n bosib bod Aled Lloyd Jones, 48, o fferm Tan Rallt ger Nantglyn, wedi llithro wrth ddefnyddio llif gadwyn i dorri cangen.
Roedd Mr Jones yn codi ffensys ym Mryn Llys, Llandyrnog, ger Dinbych, pan fu farw ar 14 Ionawr.
Yn ystod y cwest yn Rhuthun ddydd Llun, dywedodd Crwner Gogledd Ddwyrain Cymru, John Gittins, bod perchennog y tir, Amanda Dickinson, wedi mynd i chwilio am Mr Jones, wedi iddi ddychwelyd adref a gweld bod y gatiau ar agor.
Gofynnodd i ffrind fynd gyda hi i chwilio amdano oherwydd ei bod hi'n dywyll, a chafwyd hyd iddo tua 500 metr o'r tŷ, ger tractor oedd gyda'i injan yn dal ymlaen.
Dywedodd y crwner bod y patholegydd Dr Mark Atkinson wedi gohirio ei benderfyniad ynglŷn ag achos y farwolaeth, a bod y Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio i'r mater.
Cafodd y cwest ei ohirio, a bydd gwrandawiad llawn ar ddyddiad sydd eto i'w bennu.
Straeon perthnasol
- 16 Ionawr 2015