Rygbi: Gweilch 9 - 20 Northampton Saints

Y Gweilch Image copyright Getty Images

Colli oedd hanes y Gweilch yn erbyn Northampton Saints yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop ar y Liberty nos Sul.

Y Gweilch sgoriodd gyntaf, gyda chic gosb wedi ei throsi gan Dan Biggar ar ôl 12 munud. Tarodd Northampton yn ôl wedyn - cais gan Callum Clark, a chic gan Steven Myler.

Daeth Dan Biggar a'r Gweilch yn ôl o fewn pwynt i'r ymwelwyr wedi 20 munud - ond daeth triphwynt yn fuan wedyn i'r Saints.

Llwyddodd George North i sgorio cais i'r ymwelwyr yn dilyn camgymeriad gan y tîm cartref - gyda Myler eto'n hawlio triphwynt arall cyn yr hanner.

Yn fuan ar ôl ail-gychwyn fe hawliodd Myler bwyntiau eto i Northampton gyda chic arall, a doedd ymdrech y Gweilch ddim yn ddigon yn ystod gweddill yr hanner yn erbyn gwrthwynebwyr cryf ac egniol.

Dau gais a buddugoliaeth haeddianol i Northampton felly, a diwedd gobeithion y Gweilch yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop am dymor arall.

Gweilch: Dan Evans; Aisea Natoga, Ashley Beck, Josh Matavesi, Eli Walker; Dan Biggar, Rhys Webb; Marc Thomas, Scott Baldwin, Aaron Jarvis, Rynier Bernardo, Alun Wyn Jones (capten), James King, Justin Tipuric, Tyler Ardron.

Ar y fainc: Sam Parry, Gareth Thomas, Dmitri Arhip, Morgan Allen, Sam Lewis, Martin Roberts, Sam Davies, Hanno Dirksen.

Northampton Saints: Ben Foden; Ken Pisi, George Pisi, Luther Burrell, George North; Steve Myler, Lee Dickson; Alex Waller, Dylan Hartley (capten), Gareth Denman, Sam Dickinson, Christian Day, Tom Wood, Calum Clark, Samu Manoa.

Ar y fainc: Mikey Haywood, Ethan Waller, Alex Corbisiero, Phil Dowson, Teimana Harrison, Joel Hodgson, James Wilson, Jamie Elliott.

Dyfarnwr: Jerome Garces (Ffrainc)