Caerlŷr 40-23 Scarlets
Caerlŷr 40-23 Scarlets
Mae ymgyrch y Scarlets yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop ar ben am flwyddyn arall ar ôl iddynt golli yng Nghaerlŷr
Roedd gobeithion y Scarlets dal yn fyw ar yr egwyl, ar ei hol hi o 14-11.
Fe wnaeth Miles Benjamin a Jordan Crane groesi i'r tîm cartref, ond ychydig cyn hanner amser fe ddaeth cais i Rob Evans.
Ond daeth pwynt bonws i Gaerlŷr wrth i Adam Thompstone a Tom Youngs (2) groesi'r llinell gais yn yr ail hanner.
Roedd yna ddau gais cysur i'r Scarlets, diolch i Harry Robinson, ond roedd yna gyfle hefyd i Sam Harrison groesi i Gaerlŷr.
Mae'r fuddugoliaeth yn cadw gobeithion Caerlŷr o gyrraedd y rowndiau terfynol yn fyw.
Daeth y Scarlets i'r gêm gyda rhestr hir o anafiadau, gan gynnwys y cefnwr dawnus Liam Williams, ac yn y diwedd roedd diffyg cryfder a dyfnder eu carfan yn ormod i'w oroesi.