Dyn ar goll: Canfod corff

Richard John Middleton Image copyright Dyfed-Powys Police
Image caption Mae Richard John Middleton yn cael ei adnabod fel Jack neu Jackie

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau bod corff wedi ei ganfod yn yr afon Rheidol, wedi i ddyn 82 oed fynd ar goll.

Roedd yr heddlu, diffoddwyr tân, yr RNLI a gwylwyr y glannau wedi bod yn chwilio am Richard Middleton ger afon Rheidiol yn Aberystwyth.

Doedd neb wedi gweld Mr Middleton ers nos Fercher a chafodd ei gar ei ddarganfod yn ystâd ddiwydiannol Glan yr Afon yn y dref.

Mae teulu Mr Middleton wedi cael gwybod am y darganfyddiad.