Undebau Credyd: 'Methu cystadlu' â benthycwyr byr-dymor
Gan James Williams
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae'n "amhosib" i undebau credyd gystadlu â chyllidebau marchnata benthycwyr byr-dymor, yn ôl ffigwr blaenllaw yn y sector.
Croesawodd Christopher Kay, cadeirydd Undeb Credyd Gogledd Cymru, ymgyrch hysbysebu ddiweddar gan lywodraeth Cymru i hybu nifer aelodau'r undeb credyd, ond dywedodd fod angen hyrwyddo'r gwasanaeth yn fwy cyson.
Mae ffigyrau yn dangos bod aelodaeth Gymreig o undebau credyd wedi gostwng 2.7% ers yr ymgyrch hysbysebu.
Dywedodd llywodraeth Cymru bod y gostyngiad o ganlyniad i gau nifer o gyfrifon segur.
Cafodd yr ymgyrch hysbysebu gwerth £649,000 ei chyhoeddi ym mis Ebrill fel rhan o becyn gwerth £1.2 miliwn gan lywodraeth Cymru i hybu aelodaeth undebau credyd.
Dywedodd Mr Kay bod yr ymgyrch - sy'n bodoli ers mis Ebrill 2014 - wedi bod yn "hynod o effeithiol".
"Ond ar ôl cynyddu ymwybyddiaeth, y peth gwaethaf fyddai i golli hynny, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd," meddai.
"Os nad ydych yn atgoffa pobl yn gyson o bwy a beth ydych chi, yna yn araf byddwch yn pylu o'r cof."
Gostyngiad
Yn ôl ffigyrau llywodraeth Cymru, roedd yna ostyngiad o 2,219 yn aelodaeth gyfan yr undebau credyd o 79,064 ym mis Mehefin i 76,845 ym mis Medi.
"Mae'r arian wedi cael ei wastraffu," dywedodd Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol Peter Black, wrth ddatgelu ffigyrau'r niferoedd aelodaeth.
Ond dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru bod yr ymgyrch wedi arwain at gynnydd o fwy na 5,300 mewn aelodaeth undebau credyd a bod 5,300 o aelodau newydd, er bod rheolau newydd wedi gorfodi pobl i gau mwy o gyfrifon segur nag o'r blaen.
"Nid yw hynny'n lleihau'r ffaith amlwg bod nifer yr aelodau newydd yng Nghymru yn cynyddu ar gyfradd sy'n uwch na'r arfer, a hynny'n rhannol oherwydd ein hymgyrch farchnata," meddai'r llefarydd.