Gwobrwyo seryddwyr o Brifysgol Caerdydd

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Prifysgol Caerdydd
disgrifiad o’r llunCafodd Dr Haley Gomez a'r Athro Steve Eales eu gwobrwyo gan Y Gymdeithas Seryddiaeth Frenhinol

Mae dau o seryddwyr Prifysgol Caerdydd wedi eu gwobrwyo am eu cyfraniad i faes seryddiaeth gan Y Gymdeithas Seryddiaeth Frenhinol.

Derbyniodd yr Athro Eales y Fedal Herschel am ei waith ym maes seryddiaeth ymchwiliadol.

Cafodd Dr Gomez ei gwobrwyo gyda Gwobr Fowler am ei chyfraniad sylweddol i seryddiaeth yn gynnar yn ei gyrfa.