Ched Evans: Dim cytundeb yn Oldham?
- Cyhoeddwyd

Mae'r BBC wedi cael ar ddeall fod clwb Oldham Athletic yn ystyried peidio cynnig cytundeb i Ched Evans.
Roedd disgwyl i Evans arwyddo cytundeb hirdymor a dechrau hyfforddi gyda'r clwb Adran Un ddydd Llun.
Fe gafodd ei ryddhau o'r carchar ym mis Hydref, wedi iddo dreulio hanner dedfryd o bum mlynedd dan glo am dreisio dynes mewn gwesty yn 2011.
Mae'n debyg fod gwrthwynebiad wedi bod ers cyhoeddi'r bwriad i arwyddo'r Cymro - gan achosi i'r clwb ail-ystyried.
Fe fydd bwrdd Oldham Athletic yn cwrdd yn ystod y bore i benderfynu a ddylen nhw barhau â'r cynnig.
Mae disgwyl cyhoeddiad bnawn Mawrth.
'Haeddu cyfle'
Does dim disgwyl i Evans hyfforddi gyda'r garfan ddydd Llun, erbyn hyn.
Yn ôl y bwrdd, mae'r ymosodwr wedi derbyn ei gosb ac yn haeddu cyfle i ail-gydio yn ei yrfa.
Fodd bynnag, mae 20,000 o bobl eisoes wedi arwyddo deiseb ar-lein yn annog Oldham i beidio cynnig cytundeb iddo.
Mae Evans wedi trafod gyda'i hen glwb, Sheffield United, Tranmere a Hartlepool ynglŷn â dychwelyd i chwarae pêl-droed - ond wnaeth yr un tîm ei arwyddo.
Er adroddiadau fod tîm Hibernians yn Malta wedi cynnig cytundeb iddo - fe gadarnhaodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder ddydd Sadwrn na chaiff o chwarae pêl-droed i dîm o dramor, oherwydd ei drosedd.
Mae Evans yn parhau i ddadlau ei fod yn ddieuog ac mae ymchwiliad i mewn i'w euogfarn ar y gweill.
Straeon perthnasol
- 4 Ionawr 2015
- 3 Ionawr 2015