QPR 1 Abertawe 1
- Cyhoeddwyd
Aeth QPR ar y blaen oherwydd ergyd droed dde Leroy Fer o ymyl y cwrt. Doedd dim gobaith gan y golwr Fabianski.
Yn yr ail hanner yn Heol Loftus aeth Sigurdsson yn agos i'r Elyrch a tharodd blaenwr QPR Charlie Austin y postyn.
Cafodd Mauricio Isla, Richard Dunne, Joey Barton a Karl Henry, y pedwar o QPR, gardiau melyn am droseddu.
Bum munud cyn y diwedd cafodd Wayne Routledge o'r Elyrch ei anfon o'r cae am ymladd.
Yn yr eiliadau ola daeth Wilfried Bony i'r adwy a sgorio. Dim rhyfedd bod sibrydion yn cynyddu bod Man City neu Chelsea am ei brynu.
Queens Park Rangers: Green, Isla, Dunne, Caulker, Hill, Vargas, Barton, Henry, Fer, Austin, Zamora;
Eilyddion: Traore, Ferdinand, Phillips, McCarthy, Onuoha, Mutch, Hoilett;
Abertawe: Fabianski, Rangel, Fernández, Williams, Taylor, Britton, Ki Sung-yueng, Dyer, Sigurdsson, Routledge, Gomis;
Eilyddion: Bony, Emnes, Carroll, Tremmel, Bartley, Richards, Barrow.