Cerddwr o Ddinbych: Cwest yn Ionawr

Arthur Jones
Image caption Roedd Arthur Jones yn 73 oed

Bydd cwest i farwolaeth dyn o Ddinbych, fu farw pan oedd yn cerdded yn ynys Creta, yn cael ei gynnal yn Ionawr.

Daeth yr awdurdodau o hyd i gorff Arthur Jones, 73 oed, o dan goeden mewn ardal wledig ger Chania fwy na chwech wythnos wedi iddo ddiflannu.

Roedd yr heddlu, y teulu a'i ffrindiau wedi bod yn chwilio amdano.

Bydd y cwest yn Llys Crwner Rhuthun ar Ionawr 7.