Cheltenham 0-1 Casnewydd

Mae Casnewydd wedi codi i'r pumed safle yn yr Ail Adran ar ôl eu buddugoliaeth yn Cheltenham.
Chris Zebroski sgoriodd unig gol y gem gydag ergyd o 20 llath ar ôl 11 munud.
Hwn oedd ei seithfed gol o'r tymor, a'i ail mewn dau ddiwrnod.
Bu bron i'r amddiffynnwr Ismail Yakubu ychwanegu ail i Gasnewydd, ond cafodd ei beniad ei glirio oddi ar y llinell gol.
Er i Cheltenham bwyso doedd Casnewydd ddim am ildio ac mae'r canlyniad yn gweld y tîm cartref yn gostwng i safle 19.