Dyn yn cael ei holi ynglŷn â marwolaeth dynes o Aberpennar

Drawlings Close Image copyright Google
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw i Drawlings Close, Llaneirwg, fore dydd Sadwrn

Mae'r heddlu yng Nghaerdydd yn ymchwilio i farwolaeth dynes 46 oed o ardal Aberpennar.

Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad yn Llaneirwg ychydig wedi 09:30 dydd Sadwrn.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod rhywun wedi ymosod ar y ddynes.

Mae dyn 66 oed o Laneirwg wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'r farwolaeth ac mae'n cael ei holi yng ngorsaf canol Caerdydd.

Yn wreiddiol roedd y dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod.

Dywed yr heddlu nad ydynt yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.