Cynghorwyr i drafod cynllun tai yn ardal Wrecsam
- Cyhoeddwyd

The Brynteg Inn was put up for sale soon after it closed in December 2012
Mae pentrefwyr yn ardal Wrecsam yn gwrthwynebu cynlluniau i ddymchwel tafarn lleol ac adeiladu tai yn ei le.
Bwriad datblygwyr yw dymchwel y Brynteg Inn, sydd wedi bod ar gau am ddwy flynedd, a chodi wyth o dai ar y safle.
Ond mae 86 0 bentrefwyr wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r cynllun, gan ddweud y bydd yn cael effaith ar y pentref, yn arwain i broblemau parcio ac yn golygu colli tafarn leol.
Yn ôl adroddiad gan swyddogion cynllunio "bach iawn o ddiddordeb masnachol" sydd wedi ei ddangos i redeg y dafarn.
Fe fydd cynghorwyr yn gwneud penderfyniad terfynol ar 5 Ionawr, ond mae swyddogion yn argymell y dylid derbyn yr argymhellion gan ddweud y bydd y cynllun yn gwneud cyfraniad positif i'r ardal.