Eira'n disgyn mewn rhannau o Gymru

eira Image copyright Elwyn Roberts
Image caption Eira ar yr A470 ger Dolgellau

Mae eira wedi dechrau disgyn dros rannau o Gymru ddydd Gwener.

Fe gafodd rhybudd melyn ei gyhoeddi ddydd Gwener gan y Swyddfa Dywydd, gan ddarogan eira sylweddol ddisgyn ar dir isel hyd yn oed.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, bydd hanner y DU yn diodde' oherwydd y tywydd cyn i'r clirio fedru dechrau dros nos.

Yn Uwchgynghrair Bêl-droed Cymru fe gafodd dwy gêm eu hatal oherwydd y tywydd - y gêm rhwng Y Bala a Bangor a'r un rhwng Y Seintiau Newydd a Derwyddon Cefn yng Nghroesoswallt.

Mae pobl sy'n teithio ar Ŵyl San Steffan wedi cael cyngor i ddisgwyl peth trafferthion, gyda'r ffyrdd yn troi'n rhewllyd yn ystod y dydd.

Mae disgwyl i'r rhybudd fod yn weithredol yn siroedd Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Powys, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Wrecsam.

Image copyright Gethin Thomas
Image caption Roedd eira hefyd ar Fwlch y Crimea ger Blaenau Ffestiniog

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.