Coleri digidol ar ddefaid yn hwb i gefn gwlad?

Sheep Image copyright Getty Images
Image caption Y nod yw ceisio diogelu'r anifeiliaid yn y dyfodol

Fe allai coleri digidol ar ddefaid fod yn fannau penodol WiFi ac yn diogelu'r anifeiliaid yn y dyfodol, yn ôl gwyddonwyr prifysgol.

Mae ymchwilwyr am dreulio 18 mis yn Sir Conwy er mwyn asesu sut y gall datblygiadau technolegol fod yn hwb i gefn gwlad.

Prifysgol Caerhirfryn fydd yn arwain yr ymchwil ac mae Prifysgol Bangor hefyd yn cyfrannu.

Bydd offer yn cael eu gosod ger afonydd i fonitro lefelau llifogydd a cheisio atal llygredd drwy ddefnyddio technoleg "glyfar" a thechnoleg ddi-wifr.

Yn ôl y gwyddonwyr, fe allai gosod coleri arbennig ar ddefaid fod yn fannau penodol ar gyfer WiFi a helpu monitro eu hiechyd .

'Her'

Dywedodd yr Athro Gordon Blair o Brifysgol Caerhirfryn fod cefn gwlad yn wynebu her technoleg newydd.

"Mae'r dinasoedd wedi bod yn brif ffocws hyd yn hyn," meddai.

"Er enghraifft, mae wedi cadw traffig i lifo ar y ffyrdd a monitro llygredd yr awyr ... ond mae cefn glwad yn cynnig her wahanol oherwydd peryglon llifogydd.

"Y cam nesa yw penderfynu beth fydd o'r defnydd gorau yn y tymor byr."

Mae'r athro wedi derbyn £171,495 oddi wrth y Cyngor Gwyddorau Peirianyddol a Ffiseg ar gyfer y gwaith ymchwil.

'Sglodyn'

Dywedodd y ffermwr defaid Gareth Wyn Jones o Lanfairfechan, seren cyfres The Hill Farm: "Yn ôl rheolau'r Undeb Ewropeaidd mae'n ofynnol i ni dagio defaid gyda 'sglodyn.'

"Felly mae'r dechnoleg eisoes ar gael mewn un ystyr.

"Mae gennym ni 3,500 o ddefaid ac mae gofyn a fyddai coler digidol yn ymarferol yn gwestiwn gwbwl gwahanol.

"Ond pe baech chi wedi dweud wrtha i 10 mlynedd yn ôl y byddwn i yn trydar i 7,000 o ddilynwyr ar ben mynydd, fyddwn i ddim wedi eich credu chi."