Cynlluniau ar gyfer pencadlys BBC Cymru yng Nghaerdydd

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,
Llun artist o'r pencadlys newydd

Mae cynlluniau ar gyfer pencadlys newydd BBC Cymru wedi cael eu cyflwyno i Gyngor Caerdydd.

Daw hyn yn sgil cytundeb rhwng y BBC a'r datblygwyr Rightacres i godi canolfan newydd yng nghanol y brifddinas ar safle'r orsaf fysus bresennol.

Pe bai caniatâd cynllunio yn cael ei roi mae disgwyl i'r gwaith ddechrau yn y flwyddyn newydd gyda'r staff yn symud o'r pencadlys presennol yn Llandaf yn ystod 2018.

Dywedodd cyfarwyddwr BBC Cymru Rhodri Talfan Davies fod y cynlluniau yn "garreg filltir bwysig".

Dywedodd prif weithredwr Rightacres, Paul McCarthy: "Mae penderfyniad y BBC i ddewis safle y Sgwâr Ganolog wedi rhoi momentwm mawr i'r holl brosiect."

Dywedodd ei fod yn ffyddiog y byddai pencadlys y BBC yn ganolbwynt i ddatblygiad yr holl safle.

Fe fydd 1,200 o staff yn symud o Landaf pan fydd y pencadlys newydd wedi ei orffen.

Ffynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,
Bydd yr adeilad newydd yng nghanol y brifddinas