Yr Amddiffyn Blitz
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Amddiffyn y llinell gais: Yr amddiffyn 'blitz'

23 Rhagfyr 2014 Diweddarwyd 15:38 GMT

Un o'r systemau mwyaf poblogaidd i dimau rygbi proffesiynol y dyddiau yma yw'r amddiffyn blitz. Mae'n golygu rhoi cymaint o bwysau ac sydd yn bosib ar y gwrthwynebwyr wrth iddyn nhw fod hefo'r meddiant.

Hyfforddwr olwyr y Gweilch, Gruff Rees sydd yn esbonio i Gwyn Jones sut mae'r system yma'n gweithio a pha mor effeithiol all y system fod gydag esiamplau o sut mae'r Gweilch eu hunain wedi bod yn gweithredu'r system.

Dwy gêm nesaf Clwb Rygbi yw'r gemau darbi rhwng y Gweilch a'r Scarlets gyda'r gêm gyntaf ddydd Sadwrn yn fyw o'r Liberty am 16:50. Ymunwch â'r tîm bryd hynny ar S4C.