Diddanwr yn pledio'n euog i droseddau yn erbyn plant

Mae consuriwr adnabyddus o ogledd Cymru wedi pledio'n euog i 20 o gyhuddiadau yn ymwneud a delweddau anweddus o blant a throseddau cyffuriau.
Roedd y cyhuddiadau yn erbyn Mark Whincup, oedd yn perfformio dan yr enw 'Magic Mark', yn cynnwys dosbarthu delweddau anweddus o blant a chyflenwi'r cyffur crystal meth.
Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, fe wylodd y diddanwr plant 50 oed, wrth iddo gyfaddef pedwar cyhuddiad o ddosbarthu delweddau anweddus o blant, naw cyhuddiad o greu delweddau anweddus o blant, un cyhuddiad o fod a 117 o ddelweddau anweddus yn ei feddiant, ac un cyhuddiad o fod a 743 o fideos anweddus yn ei feddiant.
Fe wnaeth Whincup, o Landrillo yn Rhos, Conwy, hefyd gyfaddef bod a delweddau anweddus yn ymwneud ac anifeiliaid yn ei feddiant, a tri chyhuddiad o ddosbarthu'r cyffur dosbarth A, crystal meth.
Digwyddodd y troseddau rhwng Ionawr 2012 a Gorffennaf 2014, ac er bod y troseddau yn ymwneud â phlant, nid oeddynt yn rhai oedd Whincup wedi dod i gysylltiad â nhw yn ystod ei waith fel diddanwr.
Dywedodd y Barnwr Niclas Parry fod hwn yn achos sy'n peri pryder, a bod angen i "ddyfodol Whincup gael ei asesu yn ofalus yn sgil difrifoldeb ei droseddau".
Mae wedi ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu fis nesaf.