Cyn Aelod Seneddol wedi marw
- Cyhoeddwyd

Mae cyn Aelod Seneddol Abertawe, a wasanaethodd yr ardal am 46 o flynyddoedd, wedi marw.
Cadarnahodd teulu Alan Williams ei fod wedi marw yn 84 mlwydd oed nos Sul.
Daeth yn AS Llafur i Orllewin Abertawe yn 1964, a Mr Williams oedd yr Aelod Seneddol wrth i Abertawe gael statws dinas yn 1969.
Fe adawodd y swydd adeg etholiad 2010 ar ôl gwasanaethu'r etholaeth am dros 40 mlynedd, gyda Geraint Davies, cyd aelod Llafur yn cymryd ei le.
Dywedodd yr Aelod Seneddol presennol: "Roedd Alan Williams yn gyfaill da am 18 mlynedd - roedd yn gwnsel doeth ac yn lysgenad cryf i Abertawe am bron i hanner canrif."
Yn ystod ei gyfnod fel Aelod Seneddol bu'n gwasanaethu o dan chwe Prif Weinidog gan gynnwys Harold Wilson, Jim Callaghan, Margaret Thatcher, John Major, Tony Blair a Gordon Brown.
Mewn teyrnged arall iddo, dywedodd Aelod Cynulliad Dwyrain Abertawe a chyn arweinydd y cyngor Mike Hedges: "Roedd Alan Williams yn eithriadol o weithgar, ac fel Aelod Seneddol roedd o wastad yn rhoi Abertawe yn gyntaf. Bydd yn cael ei golli'n fawr gan bobl y ddinas."
Dywedodd ei fab Robin fod y teulu yn dal i geisio dod i delerau a'u colled ac y byddan nhw'n rhyddhau teyrnged maes o law.