Y flwyddyn a fu: Cymuned yn prynu tafarn
- Cyhoeddwyd

Union flwyddyn yn ôl, fe aeth trigolion pentref Clawddnewydd ger Rhuthun ati i brynu eu tafarn leol.
12 mis yn ddiweddarach ac mae'r fenter rwan yn cyflogi 10 o bobl a'r trigolion sydd bellach yn berchen ar holl gyfleusterau'r pentref.
Ar ôl llwyddo i gadw siop yn pentref ar agor yn 2013, mi lwyddodd y fenter i godi £90,000 mewn tri mis i brynu'r dafarn leol.
Gwirfoddoli oedd pawb i ddechrau. Ond fis Mehefin mi ddechreon nhw dalu cyflog ac erbyn hyn mae nhw'n cyflogi 10 o bobl - pedwar o'r gweithwyr hynny'n bobl ifanc leol.
Cinio dydd Sul
Yn fwy cyfarwydd 'falle â gwres gwleidyddol siambr Cyngor Sir Ddinbych, eleni mae'r Cynghorydd Eryl Williams hefyd wedi dod i arfer â gwres y gegin. Bob penwythnos ers mis Chwefror, fo sydd wedi bod yn gwirfoddoli i goginio cinio dydd Sul yn nhafarn Glan Llyn.
Mae o'n un o'r nifer o drigolion Clawddnewydd a'r cylch ddaeth at ei gilydd i brynu a rhedeg y dafarn.
"Dwi'm yn gwbod am yr un pentref arall sy'n berchen ar bopeth," meddai.
"Mae gynno ni gegin fach symudol yma, mae genno ni'r ganolfan 'aru ddechre'r holl beth, wedyn y siop a rwan y dafarn. Does 'na ddim byd arall.
"A den ni'n gobeithio, pan gawn ni'r siop i lawr i'r dafarn [o'r ganolfan], fydd 'na fusnes bach yn cael cychwyn yn fan'no.
"Mae 'na un neu ddwy wedi son eu bod nhw isio gwneud trin gwallt. Felly den ni'n creu gwasaenth, creu cymuned a gobeithio, dod â phobl ifanc yn ôl i'r ardal."