Gwaith i ddechrau ar ganolfan hamdden Nova ym mis Ionawr

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Eirian Evans
disgrifiad o’r llunFe allai'r Nova ailagor yng Ngorffennaf

Mae disgwyl i waith ddechrau ar gampfa newydd, caffi ac ystafelloedd newid yng Nghanolfan Nova, Prestatyn, ym mis Ionawr.

Bu'n rhaid i'r ganolfan gau ym mis Chwefror ar ôl i'r ymddiriedolaeth oedd yn ei rheoli ddweud fod Cyngor Sir Ddinbych wedi penderfynu rhoi'r gorau i gyfrannu grant.

Nawr mae cadarnhad y bydd y gwaith adnewyddu yn dechrau ar 5 Ionawr, ar ôl i'r sir gytuno ym mis Hydref i gyfrannu £4.2 miliwn tuag at y gwaith adnewyddu.

Fe fydd rhaid i dair uned manwerthu gau tra bod y gwaith yn mynd rhagddo.

"Mae ailddatblygu Canolfan y Nova yn rhan bwysig o'r weledigaeth i ddatblygu'r cyfle hamddena sydd ar gael ar yr arfordir," meddai'r cynghorydd Huw Jones, aelod o gabinet Sir Ddinbych sydd â chyfrifoldeb am hamdden.

Mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn mis Gorffennaf.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol