Wrecsam 2 Southport 0

  • Cyhoeddwyd
pel

Tlws FA Lloegr

Mae Wrecsam drwodd i'r ail rownd yn nhlws FA Lloegr ar ôl curo 10 dyn Southport yn eu hail gêm ar ôl dod yn gyfartal dros y penwythnos.

Gwelodd Scott Kay y cerdyn coch ar ôl 33 munud, a hynny ddau funud cyn i Andy Bishop danio ergyd i gefn rhwyd yr ymwelwyr.

Fe lwyddodd Neil Ashton i ddyblu'r sgôr i Wrecsam yn fuan ar ôl yr egwyl.

Fe fydd Wrecsam felly yn chwarae yn erbyn Stockport County oddi cartref yn yr ail rownd ar 10 Ionawr.