Rhybudd o law a llifogydd posib

glaw Image copyright AFP

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd o law trwm nos Fawrth a dydd Mercher.

Daw'r rhybudd melyn i rym o 00:05 tan 23:55 ddydd Mercher ac mae'n effeithio ar Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Powys, Conwy a Gwynedd.

Mae'r rhybudd hefyd yn dweud y dylai pobl fod yn wyliadwrus o'r posibilrwydd o lifogydd lleol.

Y disgwyl yw bod band o law trwm yn symud i Gymru nos Fawrth ac mae disgwyl iddo bara am y rhan fwyaf o ddydd Mercher, gyda'r gwaethaf dros nos.

Fe ddywed Cyfoeth Naturiol Cymru bod y glaw trwm yn ddiweddar yn golygu bod y tir yn wlyb, ac fe allai glaw pellach felly arwain at afonydd yn codi ac o bosib orlifo.

Gallai dŵr ar wyneb y ffyrdd achosi trafferthion ac maen nhw'n annog gyrwyr i ganiatáu mwy o amser i'w teithiau.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.