Bocs o obaith i blant Rwmania

Mae Elliw Williams wedi bod yn Rwmania fel gwirfoddolwr yn rhannu anrhegion Nadolig i blant difreintiedig fel rhan o ymgyrch elusen Teams 4 U. Mae hi wedi cofnodi ei hargraffiadau o'i chyfnod yno ar gyfer Cymru Fyw.

Romania

Dwi'n cofio'n glir cael pleser mawr fel plentyn yn llenwi bocs sgidia efo pob math o deganau, pensiliau, nwyddau ymolchi ac ati gan wybod y byddai plentyn llai ffodus na fi mewn rhan arall o'r byd hefyd yn cael pleser o dderbyn rhodd dros gyfnod y Dolig.

Dros 20 mlynedd yn ddiweddarach, mi ges i gyfle i ymuno â chriw o wirfoddolwyr ar daith i Rwmania er mwyn dosbarthu bocsys i blant sy'n dal i wynebu tlodi mawr.

Gŵr ysbrydoledig o Wrecsam, Dave Cooke, gafodd y syniad gwreiddiol i ddosbarthu bocsys sgidia gan blant o Gymru a gweddill Prydain i blant amddifaid yn dilyn ymweliad i Rwmania yn fuan wedi dienyddiad Ceaucescu.

Fo gychwynnodd Operation Christmas Child, elusen sy'n dal i gynnal ymgyrch bocsys sgidia ar draws y byd. Ond mae o bellach wedi cychwyn elusen arall, Teams 4 U, sy'n gweithio gyda chymunedau yn Ewrop ac Affrica i fynd i'r afael â thlodi dybryd a helpu plant i dorri'n rhydd o'r tlodi hwnnw trwy gyfrwng nifer o raglenni addysg ac iechyd.

'Cyfarfyddiad annisgwyl'

Mae Dave yn dal yn driw iawn i'r syniad o ddosbarthu rhoddion i blant na fydden nhw fel arall yn debyg o dderbyn dim dros y Dolig ac mae Teams 4 U yn cynnal eu hymgyrch bocsys sgidia eu hunain.

Maen nhw'n gweithio mewn partneriaeth efo elusen leol, People to People, er mwyn trefnu dosbarthiad y bocsys i ysgolion a chanolfannau cymunedol yn Rwmania. Cyfarfyddiad annisgwyl â Dave ddaeth â fi yma.

Eleni, mi gasglwyd dros 13,000 o focsys yng ngogledd Cymru a rhannau o Loegr. Dros y mis diwethaf mae dwsinau o wirfoddolwyr ymroddedig wedi bod yn casglu a didoli'r bocsys hynny yn barod ar gyfer eu cludo i Rwmania. Ein gwaith ni'r pen arall oedd trosglwyddo'r rheiny yn ddiogel i feddiant rhai o'r plant bach anwylaf i mi eu cyfarfod erioed.

Mi fydd y 18 gwirfoddolwr arall yma am weddill yr wythnos, ond dim ond deuddydd oedd gen i i helpu efo'r dosbarthu. Yn y deuddydd hynny 'da ni wedi dosbarthu bocsys i fwy na 2,000 o blant ac wedi ymweld ag ysgolion cynradd, pentrefi a chymunedau sipsi, eglwysi, prosiect addysg a sgiliau, cynllun cartrefu, a chartref plant amddifad yn Tielagd - lle dosbarthwyd y bocs sgidia cyntaf gan Dave a'i dîm bron i chwarter canrif yn ôl.

Dwi wedi gweld y tlodi a'r budreddi gwaethaf i mi ei weld yn unman ond dwi hefyd wedi cael y fraint o dderbyn y croeso cynhesaf a mwyaf diffuant y gallai unrhyw un ei ddychmygu. Ymhob un o'r pentrefi y buon ni ynddyn nhw, mae pobl wedi agor eu cartrefi a'n croesawu i'w haelwyd.

'Da ni wedi cael rhannu pleser y plant wrth iddyn nhw agor eu bocsys a rhyfeddu efo'r trugareddau a gafodd eu pacio mor bell i ffwrdd gyda chymaint o feddwl a chariad. Er bod y cartrefi hynny yn llai ac yn dlotach na sawl garej welith rhywun adra, does 'na ddim amheuaeth fod y bobl yma yn gwneud y gorau o'u hamgylchiadau ac yn canfod hapusrwydd yn y pethau lleiaf.

'Gobaith i'r dyfodol'

Does dim amheuaeth chwaith na ddylid helpu'r cymunedau i gael amodau byw glanach a thecach, a chreu cyfleoedd i dorri cylch tlodi er mwyn dod â nhw'n nes at eu cyd-ddinasyddion Ewropeaidd.

Mae angen rhoi hyder bod gobaith i'r dyfodol.... a dyna'n union rym y bocs sgidia.

Wrth gwrs, wneith na'r un bocs sgidia ddatrys holl broblemau unigolyn, ond maen nhw'n dod â gobaith i blant sy'n byw mewn amgylchiadau anodd iawn ac yn dangos iddyn nhw bod rhywun yn rhywle wedi meddwl amdanyn nhw, a thrwy ymdrechion parhaus elusennau fel Teams 4 U a People to People sy'n gweithio efo'r teuluoedd yma trwy'r flwyddyn, atgyfnerthir yr hapusrwydd a ddaw gyda'r bocsys a pharatoir y ffordd ar gyfer dyfodol mwy llewyrchus.

Y wefr o rannu

Er mawr gywilydd i mi, o'n i ddim wedi llenwi bocs sgidia efo anrhegion ers blynyddoedd lawer, ond gan 'mod i'n dod i rannu cyfraniadau hael cymaint o bobl eraill mi benderfynais lenwi un a mynd â fo efo fi i'w roi i blentyn.

Mewn pentref o'r enw Cadea Mica, mi sylwais ar hogan fach tua 8 oed yn sefyll rhyw 10 metr oddi wrtha i. Â hithau'n rhewi, yno'r oedd hi yn ei fflip fflops, wedi ei gwisgo mewn dillad digon tila a chôt o fwd a baw.

Roedd hi'n ymddangos yn reit dawel a swil, fel tasa hi ddim cweit yn siŵr beth oedd yn digwydd a phwy yn union oeddan ni. Mi godais fawd ac mi ddaeth gwên fawr ddireidus i'w hwyneb cyn iddi droi ar ei sawdl a rhedeg at ei ffrindiau.

Mi es innau i'r fan a nôl y bocs a deithiodd efo fi o Gymru, a mynd ati i'w roi iddi. Mi oleuodd ei hwyneb bach unwaith eto ac mi daflodd ei breichiau o fy amgylch a fy ngwasgu'n dynn. Heb i'r un gair gael ei gyfnewid rhwng y ddwy ohonon ni, mi redodd yn ôl at ei ffrindiau i rannu ei chyffro a'i hapusrwydd efo nhw.

Pwy a ŵyr beth fydd ffawd yr hogan fach honno, ond mi fydd hi - a'r cannoedd o blant eraill a gyfarfyddais yn ystod fy arhosiad byr yma - yn sicr ar flaen fy meddwl wrth i mi ddychwelyd i Gymru ar gyfer y Dolig.