Llafur Cwm Cynon yn trafod dyfodol Ann Clwyd
- Cyhoeddwyd

Disgwylir i'r Aelod Seneddol Ann Clwyd glywed heddiw ai hi fydd yr ymgeisydd Llafur yng Nghwm Cynon pan ddaw'r etholiad cyffredinol nesaf.
Ym mis Chwefror fe ddywedodd Ms Clwyd y byddai yn rhoi'r gorau i'w gwaith fel Aelod Seneddol, ond fe newidiodd ei meddwl ym mis Medi ar ôl i'r blaid orchymyn y dylid dewis yr ymgeisydd nesaf o blith rhestr o ferched yn unig.
Roedd anfodlonrwydd mawr ymhlith rhai yn yr etholaeth ynglŷn â'r gorchymyn ynglŷn â sut i ddewis ei holynydd - ac yn ôl Ms Clwyd fe ofynnwyd iddi ail ystyried ei phenderfyniad i ymddeol.
Yr ymgeiswyr eraill ar gyfer y rôl yw Katie Antippas, swyddog undeb PCS; y cynghorydd sir lleol Sue Pickering; a'r gwyddonydd Aysha Raza, cynghorydd Llafur yn Llundain, sydd yn hanu yn wreiddiol o Aberdâr.
Mae Ann Clwyd wedi cynrychioli'r etholaeth yn Nhŷ'r Cyffredin ers iddi ennill is-etholiad yno yn 1984.