Caerdydd: Cynllun i godi 7,000 o dai

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Pegasus urban design
Disgrifiad o’r llun, Byddai 30% o'r tai newydd yn dai fforddiadwy

Mae datblygwyr wedi cyflwyno cynlluniau i godi 7,000 o dai newydd yng ngogledd orllewin Caerdydd.

Byddai datblygiad Plasdŵr,ar gost o £2 biliwn, hefyd yn cynnwys siopau, swyddfeydd, ysgolion, a gwasanaethau iechyd a hamdden

Bwriad y datblygwyr yw adeiladau ar 900 acer ar dir sy'n ffinio Radur, Tyllgoed, Sain Ffagan a Danescourt.

Pe bai'r cynllun yn cael sêl bendith y cyngor fe allai gwaith ddechrau yn 2016, a'i gwblhau o fewn 20 mlynedd

Mae cyfnod o ymgynghori ar y cynllunio wedi dechrau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol