Stephen Crabb - Gwleidydd Cymreig y Flwyddyn

Mae Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, wedi cael ei enwi'n Wleidydd Cymreig y Flwyddyn.
Fe enillodd AS Preseli yr anrhydedd lai na chwe mis ers iddo gael swydd yn y cabinet.
Dywedodd cadeirydd y beirniaid, Dr Denis Balsom, yng Ngwobrau Gwleidyddiaeth Cymru nos Fawrth bod Mr Crabb wedi "adfywio'r drafodaeth wleidyddol" yng Nghymru.
Fe gafodd Elfyn Llwyd, Plaid Cymru, ei enwi'n AS Cymreig y flwyddyn.
Roedd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, wedi cipio teitl AC y flwyddyn.
Mae'r gwobrau yn eu degfed blwyddyn ac yn cael eu trefnu gan wefan y Wales Yearbook.