Boris Johnson yn beirniadu Nigel Farage am roi'r bai ar fewnfudwyr

Maer Llundain Boris Johnson
Image caption Dywedodd Boris Johnson bod esgus Nigel Farrage "yn un tila"

Mae Maer Llundain wedi beirniadu arweinydd plaid UKIP am roi'r bai ar fewnfudwyr am iddo fethu digwyddiad gan ei blaid yr wythnos diwethaf.

Roedd Nigel Farage i fod i gyfarfod tua 100 o gefnogwyr mewn digwyddiad ar drothwy cynhadledd Gymreig cyntaf ei blaid a hynny ym Mhort Talbot nos Wener.

Roedd yn hwyr ac fe ddywedodd mai'r rheswm am hynny oedd "gormod o fewnfudwyr a safon traffordd yr M4".

Mae Boris Johnson wedi dweud bod yr esgus yma "yn un tila" ac yn un o'r esgeusodion "gwaetha" iddo glywed.

Fe wnaeth Mr Johnson ei sylwadau ar raglen alwadau misol mae'n ei gynnal ar radio LBC yn Llundain.

Straeon perthnasol