Farage yn hwyr i ddigwyddiad 'oherwydd mewnfudo'

Farage
Image caption Mae Mr Farage wedi amddiffyn ei sylwadau, gafodd eu galw yn "abswrd"

Mae Nigel Farage wedi dweud mai lefelau uchel o fewnfudo a chyflwr y draffordd oedd y rheswm am iddo fethu digwyddiad cyhoeddus yn ne Cymru.

Fe wnaeth tua 100 o gefnogwyr dalu £25 yr un am docynnau i ddigwyddiad i gwrdd ag arweinydd UKIP ym Mhort Talbot ddydd Gwener.

Roedd y digwyddiad yn rhan o gynhadledd gyntaf y blaid yng Nghymru.

Mae Llafur wedi dweud ei fod yn "absẃrd" i ddweud mai mewnfudo oedd ar fai am y traffig.

'Abswrd'

Yn siarad gyda rhaglen Sunday Politics Wales, dywedodd Mr Farage: "Fe gymerodd hi chwech awr a phymtheg munud i gyrraedd yma - dylai fod wedi cymryd tair a hanner i bedair.

"Does gan hynny ddim i'w wneud gyda phroffesiynolaeth, ond mae'n ymwneud a'r ffaith bod y boblogaeth yn tyfu'n fawr oherwydd mewnfudo a'r ffaith nad yw'r M4 mor hwylus a'r oedd yn arfer bod."

"Dros yr holl flynyddoedd hefo UKIP, dyma'r trydydd digwyddiad i mi ei fethu mewn 1,000."

Dywedodd llefarydd Llafur ar Gymru, Owen Smith: "Sylwadau fel hyn yw'r rheswm mae Farage mor beryglus: yn amlwg mae'n abswrd i awgrymu bod traffig ar yr M4 oherwydd mewnfudo..."

Daw'r sylwadau ar ddiwedd wythnos pan wnaeth Mr Farage feirniadu dynes am fwydo ei babi o'r fron.

Er hynny, dywedodd yr arweinydd nad oedd yn difaru ei sylwadau.

"Dwi'n edrych ar y bobl ddiflas mewn gwleidyddiaeth sy'n dweud dim rhag ofn iddyn nhw gael eu beirniadu," meddai.

"Dydy'r cyhoedd ddim yn gwybod eu henwau nac am beth maen nhw'n sefyll drosto ac mae gyda ni wleidyddiaeth ddiflas dros y DU."

Straeon perthnasol