Parhau i holi dyn 19 oed am droseddau terfysgaeth

Heddlu
Image caption Roedd cerbydau'r heddlu yn ardal Grangetown yng Nghaerdydd fore Iau

Mae'r Heddlu yn parhau i holi dyn 19 oed gafodd ei arestio mewn cyrchoedd gwrth terfysgaeth yng Nghaerdydd a'r Barri.

Roedd y dyn yn un o bump gafodd eu harestio ddydd Iau, mae'r pedwar arall wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Cafodd y pump eu harestio ar amheuaeth o gefnogi mudiadau sydd wedi eu gwahardd.

Mae'r dyn 19 oed hefyd yn cael ei holi ar amheuaeth o baratoi neu gynorthwyo mewn gweithred o derfysgaeth.

Dau o'r dynion gafodd eu harestio oedd Rofi Islam a Sajid Idris.

Dywedodd yr heddlu nad oedd yr arestiadau diweddaraf wedi eu cysylltu gydag achosion dau ddyn gafodd eu cyhuddo ddydd Mercher.

Digwyddodd y cyrchoedd yn ardal Grangetown Caerdydd, fel rhan o ymgyrch ehangach dros Gymru.

Image caption Roedd heddlu yn gwarchod tŷ ar Stryd Paget

Straeon perthnasol