Llanc yn pledio'n ddi-euog i fyrgleriaeth
- Cyhoeddwyd

Roedd yr achos yn Llys y Goron Abertawe
Mae llanc 16 oed ar gyhuddiad o fyrgleriaeth o gartref dynes fu farw ychydig o ddiwrnodau wedyn wedi pledio'n ddieuog.
Cafodd ei arestio wedi lladrad yng nghartref Jean Thyer, 90 oed, ddydd Llun 29 Medi.
Roedd y bensiynwraig wedi cwympo yn ei chartref yng Nghilâ, Abertawe.
Cafodd ei chludo i Ysbyty Treforys, Abertawe, ond bu farw bum niwrnod yn ddiweddarach.
Roedd y llanc, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, yn Llys y Goron Abertawe.
Dywedodd Ian Wright, ar ran yr erlyniad, na fyddai mwy o gyhuddiadau yn sgil marwolaeth Mrs Thyer.
Cafodd y bachgen ei ryddhau ar fechnïaeth amodol ac mae disgwyl iddo fod yn y llys yn niwedd mis Ionawr 2015.