Pregeth gan Tony

Go brin fod llawer o bobol yn teimlo'n flin dros Tony Blair. Mae e'n byw bywyd digon cysurus wedi'r cyfan ac wedi llwyddo i droi ceiniog neu ddwy ers gadael Downing Street. Efallai bydd haneswyr y dyfodol yn fwy caredig iddo nac aelodau'r blaid y bu'n ei harwain. Go brin ei bod hi'n bosib iddyn nhw fod yn llai caredig!

Tybed ydy Tony'n cysuro ei hun weithiau trwy gofio'r adnod "nid yw proffwyd heb anrhydedd, ond yn ei wlad ei hun, ac yn ei dŷ ei hun"!

Efallai nad yw'n syndod felly ei fod wedi dewis y New York Times yn hytrach na phapur yn nes at adref i gyflwyno ei bregeth ddiweddaraf. Ond ar ôl darllen ei lith mae adnod arall o Efengyl Mathew yn dod i'r cof - "y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed"!

Ymdrech yw'r erthygl i geisio esbonio'r dadrithiad gwleidyddol sy'n gyffredin i'r rhan fwyaf o wledydd democrataidd yn y ganrif hon. Mae'r dadrithiad hwnnw yn amlygu ei hun mewn sawl ffordd gan gynnwys y cwymp yn y niferoedd sy'n dewis bwrw pleidlais a'r cynnydd mewn cefnogaeth i bleidiau oedd arfer perthyn i'r cyrion.

Fe fyddai'n hawdd wrth i gwrs i ddadlau bod y fath o wleidyddiaeth yr oedd Tony Blair yn gymaint o feistr arni yn rhan o'r broblem. Serch hynny fe fydd nifer o'i bwyntiau yn taro tant i unrhyw un sy'n ymwneud â'r byd gwleidyddol. Cymerwch hwn fel enghraifft.

"The impact of the lack of reform is felt by the public. People need better services, have higher expectations, but as any politician can tell you, they don't want to pay more for them. So the absence of reform, particularly in an era of tight budgets, is immensely challenging. Thus you have the curious paradox of modern leadership: There has to be reform to satisfy rising public demands, but the public can be easily mobilized to oppose those reforms. Therefore politicians often back off the change, which then increases voters' disillusionment with the political process".

Mae'r dyfyniad yna'n ddisgrifiad perffaith o'r cyfyng-gyngor sy'n wynebu Gweinidogion Iechyd Llywodraeth Cymru. Mae dirfawr angen gwella a moderneiddio'r gwasanaeth a hynny mewn cyfnod o gyni ariannol ond sut mae gwneud hynny pan mae unrhyw fath o newid yn arwain at brotestiadau ar stepiau'r Senedd ac yn rhoi mantais wleidyddol i'ch gwrthwynebwyr?

Mae Kirsty Williams wedi awgrymu un ffordd i fyd a'r afael a'r broblem. Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw am sefydlu comisiwn i gynllunio dyfodol y gwasanaeth. Fe fyddai'r comisiwn hwnnw yn cynnwys y pleidiau i gyd yn ogystal â chynrychiolwyr gweithwyr iechyd a chleifion.

Dyw e ddim yn syndod efallai bod Llywodraeth Cymru'n agored i'r syniad. Efallai'n wir y byddai'r cyhoedd yn fwy agored i newidiadau yn y gwasanaeth yn sgil Comisiwn o'r fath ond rwy'n amau hynny rhyw sut. Mae'r dadrithiad yn llawer i rhy ddwfn i hynny. Mae 'na dipyn fwy o symud yn y platiau tectonig i ddod cyn i ni gyrraedd y normal newydd.