Colli brwydr i gadw gwelyau yn Ysbyty Aberteifi

Ysbyty Aberteifi
Image caption Doedd ymgyrchwyr ddim yn fodlon gyda'r penderfyniad i gau gwelyau i gleifion mewnol yn yr ysbyty

Mae ymgyrchwyr oedd yn brwydro i gadw gwelyau yn Ysbyty Aberteifi wedi colli eu hachos yn dilyn adolygiad barnwrol.

Yn ei feirniadaeth, dywedodd y barnwr Mr Ustus Hickinbottom nad oedd penderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i symud y gwelyau yn "newid sylweddol mewn gwasanaeth".

Roedd 'na wrthwynebiad yn lleol i'r newidiadau, gydag 11,000 o bobl wedi llofnodi deiseb yn galw ar y bwrdd iechyd i gadw gwelyau o fewn yr ysbyty.

Dywedodd Mr Ustus Hickinbottom yn ei ddyfarniad ddydd Iau mai dim ond wyth gwely oedd yn cael eu defnyddio ym mis Tachwedd 2013, ac roedd pedwar o'r rhain yn wag erbyn y Nadolig hwnnw.

Roedd y pedwar claf oedd yn dal yno gyda chynllun gofal - ac felly roedd nifer y gwelyau oedd ar ôl yn ffactor berthnasol, meddai.

Cafodd yr achos ei ddwyn gerbron adolygiad barnwrol am fod yr ysbyty wedi cau pob un o'i gwelyau i gleifion mewnol yr ysbyty.

Gwasanaeth newydd

Ychwanegodd y barnwr y byddai gwasanaeth newydd yn agor yn Aberteifi, ond fe fyddai angen gwneud penderfyniad arall am ddarpariaeth gwelyau i'r gwasanaeth yma.

Yn y cyfamser, cyn i'r gwasanaeth newydd ddod i rym, roedd darpariaeth gwelyau wedi ei drefnu ar gyfer cleifion ac nid oedd gostyngiad yn nifer y gwelyau o fewn y sir, er nad oedd pob gwely mewn ysbytai, meddai.

Dywedodd Mr Ustus Hickinbottom nad oedd cyllid y bwrdd iechyd yn un di-ben-draw nag yn un oedd wedi ei osod - ac fe fyddai unrhyw arian ychwanegol wedi ei wario ar un agwedd o'r gwaith yn golygu cost i agwedd arall o waith y bwrdd.

Fe wrthododd y barnwr yr hawl i'r ymgyrchwyr apelio yn erbyn y dyfarniad. Ond fe ddywedodd Michael Imperato, cyfreithiwr ar ran yr ymgyrchwyr, eu bod yn cysidro i'r Llys Apêl am yr hawl i apelio.

Wrth ymateb i'r dyfarniad, dywedodd Bernardine Rees OBE, cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, fod y canlyniad i'w groesawu.

Dywedodd Mrs Rees: 'Mae'r bwrdd yn croesawu'r dyfarniad ond dydyn ni ddim yn cael unrhyw foddhad o hyn gan ein bod yn credu'n gryf nad oedd achos i'w ateb. Mae arian cyhoeddus wedi ei wario ar amddiffyn yr achos hwn ac rydym yn falch fod gennym ni gyfle i hawlio arian cyhoeddus yn ôl i'r bwrdd iechyd er mwyn ei wario ar gynnal gofal a gwasanaethau.'

Straeon perthnasol