Abertawe 1-1 Crystal Palace
- Published
image copyrightAlex Livesey
Gêm gyfartal oedd hi yn Stadiwm Liberty, wrth i Abertawe wynebu Crystal Palace.
Ychwanegodd Wilfried Bony at ei gyfanswm o 17 gôl yn yr uwchgynghrair, mwy nag unrhyw chwaraewr arall, yn gynnar yn yr hanner cyntaf, gan roi Abertawe ar y blaen.
Ond doedd mantais y tîm cartref ddim i barhau'n hir, wrth i Jonjo Shelvey ildio cic o'r smotyn, a llwyddodd Mile Jedinak i ganfod cefn y rhwyd.
Wedi'r goliau cynnar, hesb oedd yr ail hanner, a daeth y gêm i ben, 1-1.