Gwobr gerddoriaeth Gymreig i Joanna Gruesome

Joanna Gruesome

Mae'r grwp Joanna Gruesome wedi eu henwi fel ennillwyr y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2013-14 am eu halbwm cyntaf 'Weird Sister'.

Llwyddodd y grwp o Gaerdydd i guro cystadleuaeth gan nifer o enwau mawr gan gynnwys y Manic Street Preachers a Gruff Rhys.

Cafodd y band eu gwobrwyo mewn seremoni yn Theatr y Sherman nos Wener.

Dyma'r pedwerydd tro i'r wobr, gafodd ei greu gan Huw Stephens a John Rostron, gael ei rio.

Dywedodd un o'r trefnwyr, John Rostron: "Llongyfarchaidau mawr i Joanna Gruesome. Mae'n nhw'n grwp ifanc gwych gyda hunaniaeth gryf ac maen nhw wedi rhyddhau albwm gyntaf ardderchog.

"Roedd yr albwm wedi taro deuddeg gyda'r beirniaid oedd i gyd yn ei ganmol."

Cafodd y penderfyniad ei wneud gan banel o naw beirniad, oedd yn dewis o restr fer o 12 albwm.