Deiseb yn erbyn cael gwared ar wersi cerdd

Bydd deiseb yn erbyn cael gwared ar wersi cerdd, gyda bron i 4,000 o lofnodion arno, yn cael ei gyflwyno i Gyngor Sir Ddinbych yn sgil awgrym i dorri cyllid gwasanaethau cerdd y sir.
Bydd aelodau'r cyngor yn pleidleisio ar y penderfyniad fis nesaf, ond mae rhieni wedi protestio'n gryf yn erbyn y penderfyniad.
Dywedodd un rhiant, Tom Barham: "Fel rhieni, rydym ni'n deall bod toriadau ar gyllidebau'n anochel ac rydym ni'n realistig ond mae'n ymddangos bod gwersi cerdd yn darged hawdd i doriadau. Rydym ni eisiau i Gyngor Ddinbych wrando ar y band, gwrando ar yr hyn mae'r band yn ei wneud i'r plant.
"Mae'r math yma o wasanaeth yn wirioneddol bwysig ac mae'n gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau'r plant."
Dywedodd y Cyngor bod "gwasanaethau'r ymddiriedolaeth yn fwy na'r gofyn o ran gwersi cerddoriaeth."
'Hoff weithgaredd'
Mae Ben yn aelod o'r band ac yn "ei fwynhau'n fawr", dywedodd mai dyma un o'i "hoff weithgareddau" a heb y band mi fyddai'n "eistedd adref yn gwneud dim."
Ymddiriedolaeth Gerddoriaeth William Matthias sydd ar hyn o bryd yn rheoli a chyflenwi'r gwersi cerdd, yn ogystal â rhedeg ensemblau'r sir.
Mae 192 o blant yn aelodau o'r chwe ensemble sy'n cael eu rhedeg yn Sir Ddinbych.
Pris y cytundeb yw £103,000 y flwyddyn i'r cyngor, gyda £50,000 ohono'n mynd tuag at gostau gweinyddol y ddarpariaeth mewn ysgolion. Mae'r £52,000 sy'n weddill yn mynd tuag at aelodaeth y chwe ensemble.
Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych: "Mae'r toriadau sy'n cael eu cynnig mewn perthynas â'r gost o gynnal cytundeb Ymddiriedolaeth Gerddoriaeth William Matthias. Mae'r cytundeb hwn yn ychwanegol i ddarpariaeth y cwricwlwm ac nid yw'n statudol ofynnol.
"Er bod y cyngor yn rhoi ystyriaeth i doriadau mewn perthynas ar gytundeb, mae potensial yma i drafod ffyrdd eraill o gynnig yr un cyfleoedd i blant a phobl ifanc.
"Rydym ni'n credu bod ffyrdd newydd o weithio er mwyn gwella darpariaeth gwersi cerdd i blant ar y cyfan, ac yn awyddus i drafod hyn yn llawn gydag Ymddiriedolaeth Gerddoriaeth William Matthias."