1000 llofnod yn cefnogi Canolfan Treftadaeth Caernarfon

Caernarfon

Mae angen Canolfan Dreftadaeth newydd yng Nghaernarfon i hybu twristiaeth, yn ôl hanesydd lleol.

Mae Emrys Llywelyn hefyd yn arwain teithiau o amgylch y dref, a'i syniad o oedd creu deiseb sydd wedi cael dros 1,000 o lofnodion yn cefnogi'r syniad.

Canolfan i arddangos hanes pobl, diwydiant, iaith a chelf y dref sydd ei angen yn ôl y ddeiseb, fel canolfan i'r "trysorau sydd wedi eu cymryd" o'r dref.

Bydd Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad yn trafod y mater yn ddiweddarach.

'Gymaint o hanes'

Mae Mr Llywelyn yn ysgrifennydd y Gymdeithas Ddinesig yng Nghaernarfon, ac mae'n dweud bod ymwelwyr yn aml yn gofyn am ganolfan y dref.

"Mae tref fel hon hefo gymaint o hanes, ddim jyst hanes y Normaniaid Saeson, ond mae gynno ni ein hanes unigryw ein hunain wrth gwrs, yr iaith Gymraeg yn arbennig yn y dre' 'ma, ac mae isho lle i ddangos hanes yr iaith yn ei ddatblygiad ers yr oesoedd cynnar.

"Mae gynno' ni longau llechi wrth gwrs, mae gynno ni y Capeli a'r Eglwysi, mae gynno ni drysorau di-ri, a be' dwi di ei bwysleisio ydi faint o'r rhain sy' 'di mynd o Gaernarfon, i Gaerdydd, i Lerpwl ac i Lundain.

"'Da ni isho nhw 'nol i bobl gael gweld nhw, yn lle bo' nhw mewn cypyrddau."

Posibiliadau 'enfawr'

Er ei fod yn derbyn bod tref Caernarfon yn ganolfan treftadaeth fyw yn ei hun, mae'n dadlau bod angen canolfan swyddogol.

"Mae llawer o bobl sy'n dod ar deithiau i'r dref yn gofyn wrtha' i lle mae'r amgueddfa dre', lle mae canolfan y dre', does gynno ni'm un," meddai.

"Os fase 'na le i fynd, ac nid yn unig dangos hanes ond pethau modern fel fideos a chael oriel luniau...ac wedyn cael theatr fach lle mae pobl yn canu baledi, deud straeon, cal cyfranwyr yn siarad.

"Mae'r posibiliadau yn enfawr.

"Ond dwi yn sylweddoli does 'na ddim pres. Ond dwi'n sicr os oes 'na bres yn mynd i dai bonedd dros y ffin yn Lloegr, ma' 'na bres yn mynd i lawr i Gaerdydd ac Abertawe, mae'r gogledd yn haeddu r'wbeth hefyd. A Caernarfon ydi'r lle i'w roi o."

Bydd y ddeiseb yn cael ei drafod yn y Cynulliad ddydd Mawrth.