Lagŵn Abertawe: Pryderon amgylcheddol

Alex Herbert Image copyright Wales News Service
Image caption Mae Alex Herbert o'r cwmni Tidal Lagoon Power wedi dweud bod angen mawr am ffynhonnell ynni newydd.

Bydd yr ymgynghoriad ynglŷn â chynlluniau i adeiladu lagŵn fydd yn cynhyrchu ynni gan ddefnyddio'r llanw ym Mae Abertawe, yn dod i ben yr wythnos nesaf.

Mae'r cwmni sy'n gyfrifol am y cynllun wedi dweud eu bod yn gweithio i fynd i'r afael â'r pryderon sydd wedi eu codi yn ystod yr ymgynghoriad, ond mae rhai mudiadau'n parhau i boeni y bydd y lagŵn yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd.

Am y chwe mis diwethaf mae'r Arolygiaeth Gynllunio wedi bod yn archwilio cynlluniau cwmni Tidal Lagoon Power ar gyfer Bae Abertawe.

Y dyddiad terfynol ar gyfer derbyn ymateb gan fudiadau neu aelodau o'r cyhoedd yw dydd Mawrth, 25 Tachwedd.

Ynni i 155,00 o gartrefi

Pe bai'r cynlluniau'n cael eu cymeradwyo byddai 'wâl fôr' chwe milltir o hyd, yn cael ei hadeiladu rhwng y dociau a champws newydd Prifysgol Abertawe ar Ffordd Fabian.

Bydd 16 o dyrbinau tanddwr o fewn ffiniau'r 'wâl fôr' gan gynhyrchu trydan am 14 awr y dydd. Byddan nhw'n gallu cynhyrchu digon o drydan ar gyfer 155,000 o gartrefi, neu 90% o'r trydan sy'n cael ei ddefnyddio gan gartrefi ardal Bae Abertawe.

Byddai'n cymryd dwy flynedd i adeiladu'r cynllun gan greu 1,850 o swyddi adeiladu, a 180 o swyddi pan fydd y lagŵn yn weithredol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi benthyciad masnachol o £1.25 miliwn i Tidal Lagoon Power.

Image copyright Wales News Service
Image caption Mae Sarah Kessell yn dweud ei bod hi'n pryderu am golli cynefinoedd dan waliau'r lagŵn.

Pryderon

Dywedodd Alex Herbert, pennaeth cynllunio a datblygu cwmni Tidal Lagoon Power, bod angen mawr ar i'r DU ddarganfod ffynhonnell ynni newydd.

"Mae disgwyl i lawer o'n ffynonellau ynni presennol ddod i ben yn y 10 neu 20 mlynedd nesaf ac mae gennym ni gyfrifoldeb cyfreithiol i gynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy", meddai.

Ychwanegodd: "Bydd hyn yn sefydlu diwydiant newydd gan ein galluogi i adeiladu mwy o lagwnau yn y DU, a hyd yn oed mewn gwledydd eraill, er mwyn cynhyrchu llawer o ynni glân, adnewyddadwy, dibynadwy."

Mae busnesau yn ardal Bae Abertawe wedi cefnogi'r cynllun, ond mae rhai mudiadau yn pryderu y bydd y cynllun yn difrodi cynefinoedd ac yn newid y ffordd mae tywod yn cael ei ddyddodi yn y Bae.

Mae Sarah Kessell, swyddog prif weithredol Ymddiriedolaeth Natur de a gorllewin Cymru, wedi dweud ei bod hi'n pryderu am golli cynefinoedd dan waliau'r lagŵn.

Tra mae mudiad Fish Legal wedi codi pryderon ar ran nifer o gymdeithasau pysgota lleol am effaith y lagŵn ar bysgod mudol.

Dywedodd prif weithredwr y mudiad, Mark Lloyd, eu bod yn pryderu y gallai eogiaid a brithyll y môr gael eu lladd gan y tyrbinau wrth iddyn nhw gasglu ym Mae Abertawe cyn nofio fyny'r afon i fagu.

Mae cwmni Tidal Lagoon Power wedi dweud y byddan nhw'n ceisio lleihau'r nifer o gynefinoedd rhynglanw fydd yn cael eu colli ac y byddan nhw'n ceisio gwneud yn iawn am unrhyw golled drwy greu cynefinoedd newydd o amgylch y 'wâl fôr'.

Mae'r cwmni wedi cyflogi arbenigwyr er mwyn rhagweld effaith y datblygiad ar bysgod mudol.

Mae'r arbenigwyr hynny yn awgrymu mai bychan iawn fydd effaith y lagŵn.

Image copyright Tidal Lagoon Swansea Bay Ltd
Image caption Dyluniad artist o'r lagŵn llanw posib ym Mae Abertawe.

Safleoedd eraill

Wedi i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben ddydd Mawrth bydd gan yr Arolygiaeth Gynllunio dri mis i baratoi adroddiad ac argymhellion ynglŷn â'r lagŵn.

O ganlyniad i'r ffaith y bydd y lagŵn yn cael ei adeiladu mewn dyfroedd Cymreig, bydd yn rhaid i weinidogion o Fae Caerdydd gymeradwyo trwydded forol cyn i'r datblygiad fynd yn ei flaen.

Ond mae maint y prosiect yn golygu bydd y penderfyniad ynglŷn â rhoi caniatâd cynllunio'n cael ei gymryd gan Weinidog Ynni, Llywodraeth y DU.

Mae disgwyl i'r penderfyniad hwnnw gael ei wneud ym mis Mehefin 2015.

Pe bai'r cynllun yn cael ei gymeradwyo gallai'r gwaith o adeiladu'r lagŵn gychwyn yn 2015, gyda'r trydan cyntaf yn cael ei gynhyrchu yn 2018 neu 2019.

Mae Tidal Lagoon Powers yn dweud eu nod nhw eisoes wedi canfod safleoedd ar gyfer lagwnau eraill, gan gynnwys un ger Bae Colwyn ac un arall ym Môr Hafren.

Bydd mwy o fanylion ar raglen Eye On Wales ar BBC Radio Wales am 12:30 ar ddydd Sul, 23 Tachwedd.

Straeon perthnasol