Pa mor hen yw tai Eryri?
atree-ringdated1531-2.jpg)
'Pryd gafodd ei adeiladu?' Cwestiwn sy'n cael ei ofyn yn aml am hen adeiladau. Nawr mae llyfr newydd am dai hanesyddol Eryri yn cynnig ateb manylach.
Mae prosiect ar y cyd rhwng Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Grŵp Dyddio Hen Dai Cymreig wedi bod yn defnyddio gwyddoniaeth i ddyddio 100 o dai cynharaf Eryri, gafodd eu codi cyn iddi ddod yn ffasiynol i arysgrifio dyddiadau arnyn nhw.
Mae'r ymchwilwyr wedi defnyddio technoleg newydd, sy'n ei gwneud yn bosib dyddio coed i'r flwyddyn, a hyd yn oed i'r tymor, y cafodd y goeden ei thorri i lawr trwy edrych ar y blwyddgylchau.
Dywedodd Richard Suggett, un o awduron y llyfr, bod llawer o'r cyhoedd wedi gweithio ar y prosiect, gan gynnwys perchnogion y tai eu hunain.
"Mae gan y rhan fwya' o bobl ddiddordeb mawr yn hanes eu tŷ," meddai.
"Roedd pobl yn hapus i gyfrannu at y broses.
"Mae wedi bod yn brosiect archaeoleg cymunedol mawr. Mae'r canlyniadau wedi bod yn wych a'r lleoliadau'n ddiddorol dros ben."
'Hŷn na'r disgwyl'
Dywedodd Mr Suggett bod y prosiect wedi darganfod bod ffermdai Eryri yn llawer yn hŷn na'r disgwyl.
"Mae ffermdy nodweddiadol yn Eryri yn dyddio o tua 1518-1520, ac mae hynny'n gynnar i dŷ deulawr.
"Mae ein hymchwil hefyd yn dangos bod Eryri ar y pryd yn ardal weddol ffyniannus, a'r bobl oedd yn byw yna'n gwneud arian o wartheg a'i fuddsoddi mewn eiddo."
Un o'r tai a fu'n rhan o'r astudiaeth oedd Tŷ Mawr, Wybrnant - cartref yr Esgob William Morgan, a gyfieithodd y Beibl i'r Gymraeg.
Yn ôl Mr Suggett: "Roeddem yn falch o allu profi bod yna gysylltiad rhwng y tŷ a'r Esgob Morgan.
"Rydym wedi dyddio'r tŷ i 1565, cyfnod pan oedd y William Morgan ifanc yn gadael Penmachno am Gaergrawnt."
Ymhlith rhai o'r adeiladau eraill yn y llyfr mae Oerddwr Isaf, Beddgelert - bwthyn sy'n dyddio'n ôl i 1494 - a Phlas yn Dduallt ger Maentwrog, tŷ 500 mlwydd oed.
Bydd y llyfr yn cael ei lansio ar 4 Rhagfyr ym Mhlas Tan y Bwlch, Gwynedd.
Meddai'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, a fydd yn lansio'r llyfr: "Fel rhywun sydd wedi byw ar hyd ei oes bron yn Eryri, alla' i ond teimlo cynhesrwydd a pharch at yr adeiladau hyn, ynghyd ag ychydig o eiddigedd a rhyw ias o barchedig ofn."