Rhywbeth yn y dŵr
Rydyn ni yn eu cymryd yn ganiataol ond wyddoch chi bod na dros 20,000 milltir ohonyn nhw dan ddaear Cymru?
Dyna faint o ddraeniau carthfosiaeth sydd yn cael eu trin gan Dŵr Cymru. Ond, mae hi'n costio dros £7 miliwn i'r cwmni eu trwsio bob blwyddyn oherwydd bod pobl yn rhoi deunydd amhriodol yn y toiled cyn tynnu'r tsaen.
Mae Tachwedd 19 yn Ddiwrnod Toiled y Byd ac mae Dŵr Cymru yn ceisio annog pobl i fod yn fwy cyfrifol wrth ddefnyddio'r tŷ bach. Mae nhw wedi cyhoeddi rhestr o'r prif bethau sy'n achosi i'r draeniau lenwi gan achosi difrodi adeiladau a chreu llifogydd.
Yn y Dŵr-Ffeithiau
•2000 o ddraeniau sy'n gorfod cael eu gwagio gan Dŵr Cymru bob mis
•20,000 milltir o ddraeniau - mae digon ohonyn nhw i gyrraedd Awstralia ac yn ôl
•£7m yw'r gost flynyddol o drwsio draeniau sydd wedi eu blocio
•1.3m o ffyn cotwm yn cael eu rhoi mewn toiledau bob blwyddyn
•28,000 o oriau bob blwyddyn i glirio'r draeniau
Beth sydd, gan amlaf, yn achosi'r problemau yn nraeniau Cymru?
1. Cadachau glanhau colur
2. Tyweli a thamponau
3. Cadachau toiled
4. Cewynnau
5. Ffyn cotwm
6. Toweli papur
7. Plasteri
8. Fflos dannedd
9. Cadachau cewynnau
10. Deunydd pacio plastig
Gallwch glicio yma i ddysgu rhagor am ymgyrch Stop Cyn Creu Bloc.