The friend of Nasser Muthana said he knows people have resisted attempts to join IS
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

'Is yn weithredol yng Nghaerdydd'?

17 Tachwedd 2014 Diweddarwyd 22:27 GMT

Mae ffrind i ddyn o Gaerdydd sy'n brwydro gyda therfysgwyr IS yn Syria wedi dweud wrth Newyddion Naw BBC Cymru nad oes amheuaeth fod yna bobl yn gweithio i'r mudiad yng Nghaerdydd.

Yn ôl y dyn, sy'n ffrind i Nasser Muthana sydd wedi teithio i Syria, mae'n bosib y bydd 'na ymosodiadau terfysgol ar Gaerdydd tebyg i'r bomio yn Llundain naw mlynedd yn ôl.

Ond mae Heddlu'r De yn pwysleisio nad yw Caerdydd yn darged penodol.

Fe ddaw ei sylwadau wrth i'r Swyddfa Dramor ymchwilio i gysylltiad posib rhwng dyn ifanc o Gaerdydd a llofruddiaeth nifer o wystlon gan gynnwys yr Americanwr Peter Kassig yn Syria.

Adroddiad Owain Evans.