Gyrwyr yn cael eu cosbi bob 10 munud

a44
Image caption Mae'r A44 rhwng Llangurig ac Aberystwyth yn un o'r ffyrdd sydd â risg uchel o ddamwain

Mae cosb am yrru diofal neu or-yrru yn cael ei gyhoeddi bob 10 munud yng Nghymru, yn ôl yr elusen diogelwch ffyrdd Brake.

Dywedodd yr elusen fod 111 o bobl wedi eu lladd a mwy na 1,000 wedi'u hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd Cymru yn ystod y llynedd.

Mae'r elusen yn lansio eu hymgyrch "look out for each other" ar ddechrau wythnos diogelwch ar y ffyrdd.

Dywedodd llefarydd ar ran yr elusen: "Nid yw damweiniau ffyrdd yn ddamweiniau, maent yn ddigwyddiadau dinistriol ac mae bosib eu hatal."