Mike Phillips a Gareth Edwards
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Gareth Edwards a Mike Phillips - Cewri'r Cae Rygbi

15 Tachwedd 2014 Diweddarwyd 09:29 GMT

Mae'r ddau wedi chwarae dros hanner cant o weithiau dros Gymru ac wedi bod yn rhan o garfan y Llewod ddwy waith, a cafodd Gareth Edwards a Mike Phillips gyfle i sgwrsio a rhannu profiadau yr wythnos hon.

Tra'n siarad gyda Gareth Edwards, mae Mike Phillips yn cyfaddef y byddai wedi mwynhau chwarae yn yr adeg amatur. Er hynny, mae'n dweud na fyddai wedi cael ei ddewis fel mewnwr os y byddai wedi chwarae yr un adeg a Gareth Edwards gan ddweud efallai y byddai wedi chwarae yn yr ail-reng gyda Delme Thomas!

Wedi dechrau ar y fainc yn erbyn Awstralia, bydd Mike Phillips yn dechrau fel mewnwr yn erbyn Fiji.

Mae'r gêm yn fyw i'w gweld ar Clwb Rygbi ddydd Sadwrn ar S4C am 1400 gyda Ken Owens, Gareth Davies, Emyr Lewis a Deiniol Jones yn ymuno â'r tîm. Cic gyntaf am 14.30.