Dedfrydu cyn grwner Sir Gaerfyrddin

Fe fydd cyn grwner Sir Gaerfyrddin yn cael ei ddedfrydu am ladrad o £1 miliwn ddydd Gwener.
Fe wnaeth John Owen, 79 oed o Landeilo, ddwyn yr arian o Ystâd John Williams.
Roedd Owen wedi ei ddewis fel un o'r rhai oedd yn gyfrifol am ddosrannu ewyllys Mr Williams wedi ei farwolaeth.
Ym mis Medi fe wnaeth y cyn grwner bledio yn euog i 17 cyhuddiad o ladrata a chadw cyfrifon ffug.
Bu Owen yn grwner am 25 mlynedd cyn iddo ymddiswyddo yn 2011.
Ar ôl i Owen bledio'n euog, fe wnaeth y barnwr ei rybuddio bod cyfnod o garchar yn debygol.
Clywodd y llys bod Mr Williams heb briodi ac nad oedd ganddo deulu agos, ac i'w fferm gael ei gwerthu yn 1996.
Cafodd tri o bobl eu penodi i oruchwylio ei ewyllys, ond bu farw'r ddau arall.