Cronfa £3m i greu swyddi yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd

Bydd cronfa o £3m ar gael i geisio amddiffyn a chreu swyddi yn Sir Benfro yn sgil colli 340 o swyddi ym mhurfa Murco.
"Fe fyddaf yn agor cylch arbennig o Gronfa Twf Economaidd Cymru fydd yn cefnogi busnesau wrth iddyn nhw greu a diogelu swyddi yn y sir," meddai'r Gweinidog Economi, Edwina Hart.
"Ac fe fydd y gronfa £3m yn ogystal â chylch newydd o £500,000 o Gronfa Twf Busnesau Bychain a Chanolig ..."
Yr wythnos ddiwethaf roedd cyhoeddiad na fyddai'r safle yn Aberdaugleddau yn cael ei werthu i gwmni Klesch.
A40
Mae hyn yn golygu taw dim ond 60 o'r gweithlu o 400 fydd yn parhau i gael eu cyflogi gan Murco wrth i'r burfa gael ei throi yn safle storio a dosbarthu.
Dywedodd Mrs Hart y byddai astudiaeth o fewn chwe mis i'r posibilrwydd o uwchraddio'r ffordd rhwng Sanclêr a Hwlffordd a'i throi'n ffordd ddeuol.
Roedd gwella cysylltiadau trafnidiaeth yn flaenoriaeth, meddai, ac roedd hwn yn bwnc trafod yng nghyfarfod y tasglu ddydd Mawrth.
"Dwi wedi cael cyfarwyddyd i gyflymu'r rhaglen fydd yn gwella'r ffordd yn Llanddewi Felffre."
Dywedodd y gweinidog y byddai prentistiaid sy'n hyfforddi gyda chwmni Murco yn medru cael eu trosglwyddo i burfa Valero ger tref Penfro.
Cadeirydd
Stan Mcllvenny, meddai, fyddai cadeirydd newydd Ardal Fenter Dyfrffordd y Daugleddau.
Mae arweinydd Cyngor Sir Penfro Jamie Adams wedi croesawu datganiad Edwina Hart am y posibilrwydd o droi'r A40 yn ffordd ddeuol.
"Mae'r hyn ddywedodd hi'n gyson â'n barn ni, fod cysylltiadau trafnidiaeth effeithiol yn arwain at fanteision economaidd i'r sir," meddai.
Straeon perthnasol
- 7 Tachwedd 2014
- 9 Tachwedd 2014
- 5 Tachwedd 2014